Cronfa Teulu Sloman ar gyfer Trelái

“Dau beth sy’n rhoi pleser arbennig: y naill yw canfod y gallech gael Cronfa a Enwir, sef Cronfa Teulu Sloman, ac, yn ail, y gallai ganolbwyntio ar Drelái yng Nghaerdydd. Gwnaeth y ddau beth hynny wahaniaeth i mi o ran rhoi – Cronfa a Enwir ar gyfer ardal fach. Nid yw’r swm dan sylw mor sylweddol â hynny ar hyn o bryd… ond bydd mwy yn dod i mewn. Mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn gofalu am y grantiau ac yn aml bydd yn ychwanegu at y llog er mwyn sicrhau y caiff y grant ei ddefnyddio’n fwy effeithlon. Dyna’n union y trefniant sy’n addas i mi, diolch yn fawr.”